Enwebwch Eich Arwyr Chwaraeon Nawr

2 Medi 2009

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n chwilio am arwyr chwaraeon y genedl.

Mae pobl Cymru’n cael eu hannog i enwebu eu hyfforddwyr chwaraeon ar gyfer Gwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn Cyngor Chwaraeon Cymru 2009.

Mae hyfforddwyr wrth galon chwaraeon – boed ar y llinell ochr yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA neu mewn gêm bump bob ochr ar fore Sadwrn. A dyna pam fod Cyngor Chwaraeon Cymru eisiau cydnabod pobl ar bob lefel – yn cynnwys yr hyfforddwr sy’n gweithio fore, pnawn a nos yn eich clwb lleol chi.

Mae gennych tan 2 Hydref i leisio eich barn.

Y categorïau yw:

· Hyfforddwraig y Flwyddyn

· Hyfforddwr Clwb

· Hyfforddwr Athletwyr Anabl

· Hyfforddwr Perfformiad Uchel

· Hyfforddwr / Arweinydd Ifanc (ar gyfer hyfforddwyr dan 25 oed)

Dyfernir gwobr anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Cyngor Chwaraeon Cymru i un o enillwyr y categorïau.

Y llynedd, enillodd y cyn-löwr, Billy Pye, o Flaengwynfi yng Nghymoedd Uchaf Afan, y brif anrhydedd. Mae’r hyfforddwr nofio wedi meithrin talentau nofwyr Paralympaidd fel David Roberts, Ellie Simmonds a Liz Johnson, a nawr mae’n annog cefnogwyr chwaraeon i enwebu:

"Roedd yn fraint fawr iawn i mi ennill y llynedd. Roedd yn glod hyfryd i’w dderbyn – yn enwedig wedi cychwyn mor gynnar yn y bore wrth ochr y pwll! Gall hyfforddi fod yn waith caled ond mae’n eithriadol bleserus wrth gwrs. Byddwn yn annog pawb i fynd ati i enwebu – mae’n ffordd hyfryd o ddweud diolch i’ch hyfforddwr yn eich clwb lleol."

Meddai Cadeirydd y Cyngor Chwaraeon, Philip Carling:

"Mae cymaint o hyfforddwyr yn bodoli sy’n gwneud gwaith rhagorol – boed ar lefel leol neu genedlaethol. Eleni, rydym eisiau derbyn mwy o enwebiadau nag erioed o’r blaen. Rydym yn gwybod bod llawer o ymgeiswyr teilwng yn bodoli allan yn y byd chwaraeon ac rydym eisiau clywed amdanynt. Felly ewch ati i enwebu!"

Efallai y dyfernir gwobr am Gyflawniad Oes hefyd. Meddai Mr Carling wedyn: "Mae’r wobr hon ar gyfer unigolyn hynod arbennig sydd wedi ymroi ei oes i’r byd chwaraeon."

Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn y seremoni a gynhelir yn Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd ar 12 Tachwedd 2009. Bydd y Cyngor Chwaraeon yn enwebu pob un o’r buddugwyr am wobr yng Ngwobrau Hyfforddi’r DG, a gynhelir gan sports coach UK.

Mae’n rhaid i’r enwebiadau gyrraedd erbyn dydd Gwener 2 Hydref 2009 fan bellaf.

I lawrlwytho neu gwblhau ffurflen enwebu ar-lein, ewch i:

www.hyfforddiantcymru.com

Am wybodaeth bellach, ffoniwch 029 2033 8213

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.