SWYDDOG HYFFORDDI
29 Ion 2010£31,000 - £34,000 y flwyddyn
(37 awr)
Tymor y cytundeb - 2 flynedd
Mae partneriaeth newydd rhwng sports coach UK, Cyngor Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru wedi arwain at gyfle cyffrous ar gyfer cyflogi swyddog hyfforddi cyffredinol i weithio gyda nifer o CRhC yng Nghymru er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu eu hyfforddiant.
Bydd y swydd wedi’i lleoli yn Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd ond er mwyn gwasanaethu’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol, bydd yn ofynnol teithio ar hyd a lled Cymru hefyd.
Byddwch yn gyfrifol am weithio gyda nifer penodol o gyrff rheoli a bydd y gwaith yn amrywio, gan ddibynnu ar eu gofynion unigol. Byddwch yn chwarae rôl arweiniol yn y gwaith o fwrw’r hyfforddiant yn ei flaen oddi mewn i’w sefydliad, gan ddylanwadu ar y cyfeiriad strategol ar gyfer hyfforddi a sicrhau bod is-strwythur yn ei le er mwyn sicrhau cynaladwyedd. Bydd gennych rôl allweddol i’w chwarae mewn cynorthwyo’r cyrff rheoli i sicrhau bod systemau priodol yn eu lle er mwyn recriwtio, hyfforddi, defnyddio a dal gafael ar hyfforddwyr.
Rydym yn chwilio am rywun gyda phrofiad o ddatblygu chwaraeon / datblygu hyfforddwyr, ynghyd â dealltwriaeth dda o hyfforddi yng Nghymru ac yn y DG. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau dylanwadu rhagorol a bydd ganddo allu i fwrw’r prosiect yn ei flaen tra’n sicrhau perchnogaeth arno a chael partneriaid eraill i brynu i mewn iddo.
Er mwyn derbyn pecyn cais ar gyfer y swydd, cysylltwch â Chymdeithas Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW, e-bost wendy.yardley@scw.org.uk neu ffoniwch 029 2033 8237
SWYDDOG HYFFORDDI
Dyddiad cau: 19eg Chwefror
Dyddiad y cyfweliad: yr wythnos yn dechrau ar: 1af Mawrth
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
