Sut allaf i fod yn hyfforddwr cymwys yn fy nghamp?
Mae gan bob corff rheoli chwaraeon cenedlaethol yng Nghymru ei gymwysterau hyfforddi ei hun. Bydd gan y mwyafrif ohonynt gynllun strwythuredig ar gyfer bod yn hyfforddwr - ar y ffurf a ganlyn yn aml:
- Cwrs i arweinwyr / cyflwyniadol - cwrs cyflwyniadol ar gyfer dechreuwyr, yn darparu cymorth sylfaenol i chi gyda helpu mewn clwb
- Lefel 1 - hyfforddwr cynorthwyol
- Lefel 2 - hyfforddwr llawn
- Lefel 3 - hyfforddwr llawn gyda chyfrifoldebau ychwanegol, e.e. mentora hyfforddwyr eraill
- Lefel 4 - hyfforddwr rhanbarthol
- Lefel 5 - hyfforddwr elitaidd
Fel dewis arall, bydd gan eich awdurdod lleol uned ddatblygu chwaraeon. Maent yn darparu cyfleoedd hyfforddi yno hefyd. Bydd y rhan fwyaf o'r unedau datblygu chwaraeon yn cynnig rhaglen o gyrsiau hyfforddi cyffredinol ond byddant hefyd yn ymwybodol o ba gyrsiau sy'n cael eu cynnal gan y cyrff rheoli yn eich ardal. Fe all yr uned fod yn fan cyswllt defnyddiol iawn gan ei bod yn darparu gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas ar lefel leol.
Cael hyd i fy Uned Ddatblygu Chwaraeon Leol
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
