Hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg
Ceir ffocws i ehangu'r cyfleoedd i hyfforddi chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ddiweddar, mae Chwaraeon Cymru wedi cyflogi Swyddog Iaith Gymraeg. Cylch gorchwyl y swydd hon yw cydlynu gweithgareddau sefydliadau, sicrhau mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddi chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngwaith craidd Chwaraeon Cymru.
Credir hefyd y bydd Tystysgrif Hyfforddi'r DG yn arwain at gynnydd yn y defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae'r chwaraeon hynny yng Nghymru sy'n ymwneud â'r dystysgrif hon yn ymroddedig i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ac yn y dyfodol maent yn gobeithio gallu darparu adnoddau Cymraeg i hyfforddwyr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael os ewch i wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
