Beth all fy nghorff llywodraethol ei wneud i mi?

Mae cyrff llywodraethol yn gyfrifol am drefnu a gweinyddu pob agwedd ar ryw gamp benodol; yn y bôn mae pob corff llywodraethol yn gyfrifol am ddatblygu ei gamp ei hun trwy Gymru gyfan. Mae cyrff llywodraethol yn ymdrin â phob mater sy'n ymwneud â hyfforddi ac felly maent yn gyswllt allweddol os ydych am symud ymlaen i ymgeisio am lefel nesaf cymhwyster hyfforddi.

Bydd corff llywodraethol eich camp yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am y cyrsiau sydd ar gael, ynghyd â dyddiadau ac amserau'r cyrsiau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru. Bydd y corff llywodraethol yn gallu rhoi cyngor ar y canlynol yn ogystal:

  • Manylion y strwythur hyfforddi a'r hyn y mae angen i chi ei wneud i ddatblygu eich gyrfa fel hyfforddwr.
  • Cyrsiau sy'n cael eu cynnal yn eich ardal.
  • Unrhyw hyfforddiant ychwanegol (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) sy'n benodol i'r gamp.
  • Manylion am unrhyw gynadleddau ar hyfforddi.
  • Cael yswiriant.
  • Ymaelodi â'r corff llywodraethol.

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth am hyfforddi, bydd y corff llywodraethol yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth i chi am y gamp yn gyffredinol, er enghraifft, manylion am glybiau chwaraeon, y ddarpariaeth mewn ysgolion ac unrhyw fentrau sy'n cael eu cynnal er mwyn datblygu'r gamp.

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru yn sefydliad pwysig arall ym maes gweinyddu chwaraeon am ei bod yn cynrychioli'r holl gyrff llywodraethol sy'n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru. Mae'r Gymdeithas wedi llunio cronfa ddata o'r holl glybiau chwaraeon yng Nghymru, felly os oes gennych ddiddordeb mewn dod i wybod mwy am glybiau yn eich ardal, trowch at ei gwefan.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.