Sefydliadau Hyfforddi

Ceir nifer o sefydliadau sy'n gyfrifol am ddatblygu hyfforddiant chwaraeon yng Nghymru. Mae'n bosibl y byddwch yn gweld bod y rhain yn gysylltiadau defnyddiol a hwyrach y byddwch eisiau darganfod mwy am y gwaith y maent yn ei wneud. Rydym wedi crynhoi'r wybodaeth hon isod:

UK SportUK Sport - un o brif ddyletswyddau'r corff hwn yw datblygu System Perfformiad Da o'r Radd Flaenaf yn y DU. Mae'n gyfrifol am ddatblygu hyfforddiant ar lefel elît, mae'n gweinyddu rhaglen ysgoloriaeth ar gyfer hyfforddwyr elît ac yn trefnu'r World Class Coaching Conference.

sports coach UKSports coach UK - corff yw hwn sy'n ymwneud â hyfforddiant chwaraeon yn y DU. Mae Sports coach UK yn datblygu nifer o weithdai i hyfforddwyr ac yn ogystal â hynny mae'n gweithio gyda sefydliadau megis Cyngor Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethol chwaraeon er mwyn cynorthwyo i lywio a datblygu eu systemau hyfforddi.

Llywodraeth Cynulliad Cymru - mae Uned Polisi Chwaraeon Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am ddatblygu'r polisi mewn perthynas â chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae hyfforddiant yn elfen bwysig o'r gwaith hwn. Yr uned hon sydd wedi datblygu'r Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru.

Cyngor Chwaraeon Cymru - Mae Uned Hyfforddi Cyngor Chwaraeon Cymru yn gweithio i gyflawni'r nodau allweddol a nodir yn y Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â'r holl sefydliadau a restrir yn yr adran hon i wella cyfleoedd hyfforddi.

Y Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon - Mae gan y mwyafrif o gampau gorff llywodraethol sy'n gyfrifol am drefnu'r gamp honno a'i gweinyddu. Yn y bôn, mae pob corff llywodraethol yn gyfrifol am ddatblygu ei gamp ei hun trwy Gymru gyfan. Mae cyrff llywodraethol yn ymdrin â phob mater sy'n ymwneud â hyfforddi, ac felly maent yn gyswllt allweddol. Byddan yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am y cyrsiau sydd ar gael, ynghyd â dyddiadau ac amserau'r cyrsiau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru.

Uned Datblygu Chwaraeon - Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru uned datblygu chwaraeon sy'n gyfrifol am ddatblygu hyfforddiant. Mae gan yr unedau hyn wybodaeth dda am yr hyn sy'n digwydd ar lefel leol a gallant roi manylion i chi ynghylch y cyrsiau hyfforddi yn eich ardal, ffynonellau cyllid a sut i fynd ati i gynorthwyo clwb lleol.

Skills Active - Mae SkillsActive yn elusen gofrestredig sy'n ymgynghori â chyflogwyr ynghylch y sgiliau sydd eu hangen ar eu gweithlu. Mae hyn yn cynnwys cyflogwyr yn y sector chwaraeon ac felly, mae'n ymdrin â hyfforddi. Mae'n gyfrifol am lunio Cytundeb Sgiliau Sector rhwng cyflogwyr, y Llywodraeth, partneriaid cyllido a darparwyr hyfforddiant er mwyn sicrhau bod y gweithlu'n datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.