Gwirio Cofnodion Troseddol

Y Swyddfa Cofnodion Troseddol sy'n prosesu gwiriadau a gaiff eu gwneud mewn perthynas â staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion bregus.

Asiantaeth sy'n gweithio i'r Llywodraeth yw'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ac mae'n cynnig 'siop un stop' ar gyfer y rhai sydd am wirio cofnodion troseddol. Mae gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol fynediad i wybodaeth a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu a rhestrau perthnasol a gedwir gan yr Adran Iechyd a'r Adran Addysg a Sgiliau. Yn ychwanegol at hyn, darperir gwybodaeth gan yr heddlu lleol mewn rhai amgylchiadau. Dogfen sy'n rhoi gwybodaeth am gofnodion troseddol yw datgeliad.

Mae gwasanaeth datgelu'r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn ei gwneud hi'n bosibl i fudiadau cofrestredig wirio cefndir gwirfoddolwyr a staff cyflogedig, a gellir defnyddio'r wybodaeth hon yn rhan o broses recriwtio wybodus.

Pa wiriadau sydd ar gael gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol?

Mae'r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cynnig dau wiriad:

  • Datgeliad Safonol
  • Datgeliad Manwl

Ers ymchwiliad Bishard (achos Ian Huntley) argymhellir y dylai unigolion sy'n gweithio gyda phlant gael datgeliad manwl.

Mae datgeliad manwl yn rhoi'r un wybodaeth â datgeliad safonol, ond, GALL gynnwys gwybodaeth o gofnodion yr heddlu lleol mewn perthynas ag achosion nad oeddent wedi arwain at gollfarn ond a allai fod yn berthnasol, ym marn y prif swyddog e.e. ymchwiliadau blaenorol, cyhuddiadau ac ati.

Codir tâl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol am wirio staff cyflogedig (£33). Mae datgeliadau ar gyfer gwirfoddolwyr yn RHAD AC AM DDIM.

Yr Uned Cofnodion Troseddo

Mae'r Uned Cofnodion Troseddol yn gorff cofrestredig sy'n dod dan ymbarél y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Sefydlwyd yr uned yng Nghymru er mwyn sicrhau dull mwy diogel o recriwtio staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda phlant yn y sector gwirfoddol. Yn ogystal â hyn, mae'r uned yn cynnig cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant i fudiadau gwirfoddol ar ddefnyddio'r gwasanaeth datgelu.

NID oes tâl am ddefnyddio gwasanaethau'r uned. Yr unig dâl y gofynnir amdano yw'r hyn a godir gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol mewn perthynas â gwiriadau ar gyfer gweithwyr CYFLOGEDIG. Mae'r gwiriadau ar wirfoddolwyr yn RHAD AC AM DDIM.

Manylion Cyswllt:

WCVA CRU
11 - 13 Ffordd Wynnstay
BAE COLWYN
Conwy
LL29 8NB
Ffôn - 0870 241 6557
cru@wcva.org.uk

Neu gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy droi at wefan y Swyddfa Cofnodion Troseddol

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.