Chwaraeon heb gyffuriau
Fel hyfforddwr, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod athletwyr yn ymwybodol o'u hawliau a'r rheolau gwrthgyffuriau y mae'n rhaid ufuddhau iddynt wrth gystadlu. Dylai hyfforddwyr ddeall a gwerthfawrogi diben y rhaglen o brofion cyffuriau a dylent fod yn ymwybodol o'r holl wasanaethau sydd ar gael i'w galluogi i roi arweiniad priodol i'r rheiny y maent yn eu hyfforddi.
UK Sport sy'n arwain y cynllun gwrthgyffuriau yn y DU a'r corff hwn sy'n gyfrifol am wella addysg mewn perthynas â chyffuriau a hyrwyddo chwaraeon sy'n deg o safbwynt moesegol ac sy'n rhydd o gyffuriau. Er y dylai athletwyr bob amser wirio'u meddyginiaeth yn unol â rheolau eu camp, ni ddylent fynd yn erbyn cyngor meddygol ynghylch pryd i gymryd y feddyginiaeth honno. Cynghorir pob hyfforddwr i gymryd golwg ar wefan UK Sport am ragor o wybodaeth. Ceir adran ar gyfer personél chwaraeon, athletwyr a hyfforddwyr sy'n darparu arweiniad ar bolisïau a gweithdrefnau gwrthgyffuriau yn ogystal â Chronfa Ddata Gwybodaeth am Gyffuriau sy'n caniatáu i chi chwilio am statws cynnyrch fferyllol trwyddedig sydd ar gael yn y DU.
Datganiad Ystyriaeth ar Ychwanegiadau Mewn Chwaraeon UK Sport Ebrill 2007
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
