Cymorth Cyntaf
Mae'n bwysig bod hyfforddwyr yn mynd ar gwrs cymorth cyntaf neu'n meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf. Hwyrach y gall eich corff llywodraethol roi gwybodaeth i chi am gofrestru ar gwrs. Os ydych yn ansicr ynglŵn â sut i gael cymhwyster cymorth cyntaf, trowch at y gwefannau isod:
Academi Chwaraeon y BBC - mae'n rhoi awgrymiadau allweddol i hyfforddwyr. Mae'r wefan yn rhoi dolen gyswllt i wefan cymorth cyntaf Iechyd y BBC, a cheir cwrs ar-lein yno sy'n ymchwilio i hanfodion cymorth cyntaf, gan gynnwys gofalu am blant (1-7 oed). Ceir dolenni cyswllt hefyd sy'n cynnig gwybodaeth am ddosbarthiadau lleol neu ffeithiau ynglŵn â chymorth cyntaf.
Ambiwlans Sant Ioan Cymru - y darparwr hyfforddiant mwyaf yng Nghymru sy'n cynnal cyrsiau cymorth cyntaf ar gyfer amryw grwpiau gan gynnwys mudiadau chwaraeon.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
