Cyllid ar gyfer cyrsiau
Y Gist Gymunedol
Dyma gynllun cymorth grant a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol. Ei ddiben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach. Y grant uchafswm yw £1,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
NEWIDIADAU PWYSIG I NODI: Mae rhai newidiadau wedi'u gwneud i Becynnau Cais y Gist Gymunedol o Ebrill 2007 - i lwytho ffurflen i lawr cliciwch yma.
Diben y Cynllun:
Prif ddiben y cynllun yw cefnogi prosiectau da a fydd yn creu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol newydd neu well. Diben y cynllun yw cefnogi gweithgareddau sydd yn:
- annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach;
- annog gwirfoddolwyr a hyrwyddwyr cymunedol drwy ddatblygu arweinwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol, hyfforddwyr chwaraeon a swyddogion newydd.
Pwy sy’n gymwys? – Gall sefydliadau wneud cais, ar yr amod bod ganddynt gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad. Gall ysgolion cynradd elwa o Gampau’r Ddraig os ydynt yn dewis, felly nid ydynt yn gymwys i dderbyn cyllid drwy gyfrwng y Gist Gymunedol.
Sut mae gwneud cais? - Cysylltwch â swyddfa ranbarthol agosaf Cyngor Chwaraeon Cymru a fydd yn darparu manylion cyswllt eich Swyddog Grantiau Cist Gymunedol lleol i chi.
Fel dewis arall, gallwch lwytho’r ffurflenni cais a gwybodaeth bellach o’r Adran Llwytho Grantiau a Chyllid.
Dogfennau i Lwytho lawr:
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
