Mentora

Wrth i'r proffesiwn hyfforddi ddatblygu, mae'r angen am gyfleoedd mentora yn dod yn gynyddol bwysig. Mae Tystysgrif Hyfforddi'r DU yn rhoi pwyslais ar fentora ac mae'n debygol y bydd mentora yn cael ei ddefnyddio fwyfwy ym myd chwaraeon. Gall fod yn ffordd ardderchog o ddatblygu fel hyfforddwr ac mae'n adnodd grymus yn y gwaith o hyfforddi a datblygu hyfforddwyr chwaraeon ar bob lefel. Os hoffech gael eich mentora neu os ydych yn chwilio am gyngor ynghylch sut i ddod yn fentor llwyddiannus, gobeithio y gallwn eich rhoi ar y trywydd iawn.

Os hoffech gael gwybodaeth am gyfleoedd i gael eich mentora, y peth gorau i'w wneud yn y lle cyntaf fyddai cysylltu â'r corff llywodraethol cenedlaethol ar gyfer eich camp. Bydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â rhai hyfforddwyr eraill y byddwch yn gallu gweithio gyda nhw.

Beth os hoffech ddod yn fentor? Yn gyntaf, efallai y byddai'n syniad i chi gysylltu â'ch corff llywodraethol am gyngor ar sut i ddod yn fentor ac er mwyn darganfod a yw'r corff hwnnw yn gallu argymell unrhyw hyfforddiant addas ar eich cyfer. Fel arall, gallwch gofrestru ar gwrs a gynhelir gan Sports coach UK sy'n edrych ar fentora hyfforddwyr chwaraeon - A Guide to Mentoring Sports Coaches. Mae'r gweithdy hwn, sy'n para tair awr, yn eich cynorthwyo i adnabod swyddogaethau mentor, sut y mae dysgu'n digwydd a sut y gallwch gynorthwyo hyfforddwyr.

I ddod o hyd i weithdy yn eich ardal chi cliciwch ar y cyswllt ar y dde.

Yn olaf, ceir llyfr adnoddau ar gyfer astudio gartref sy'n dwyn y teitl A Guide to Mentoring Sports Coaches. Mae'r llyfr hwn ar gael gan Coachwise am £9.99.

Mwy o wybodaeth am y llyfr hwn

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.