Arweinyddiaeth Mynydda
Mae Strategaeth Dringo'n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru’n tynnu sylw at bwysigrwydd hamdden awyr agored, gan ddatgan y canlynol: "Dylid defnyddio amgylchedd naturiol unigryw Cymru yn ogystal â’i edmygu – ond ei ddefnyddio’n gynaladwy a than reolaeth, ar gyfer pobl Cymru yn ogystal ag ymwelwyr. Hefyd, mae’n rhaid i ni annog a chyflwyno gwybodaeth i bobl ieuainc am yr awyr agored. Bydd hyn yn eu gwneud yn iachach a bydd yn haws iddynt gael gwaith. Bydd hefyd o gymorth iddynt rannu’r synnwyr unigryw ac arbennig o le a geir yng Nghymru" (allan o Strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2005).
Ceir sawl sefydliad sy’n ymroddedig i helpu gyda chyflawni’r weledigaeth hon felly cymerwch gip ar y cysylltiadau isod i ddarganfod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud a’r cyrsiau a gynigir.
Arweinwyr Chwaraeon y DG - yn cynnig Dyfarniad Arweinyddiaeth Taith Sylfaenol. Dyma ddyfarniad a gydnabyddir yn genedlaethol ac mae’n hyfforddi a chymhwyso athrawon, gweithwyr ieuenctid ac aelodau eraill y gymuned i (1) arwain grwpiau ar dir isel (2) bod yn gyfrifol am ofalu am eraill pan maent yn yr awyr agored, yn cynnwys siwrneiau dydd (3) trefnu gwersylloedd lleoliad a symudol.
Hyfforddiant Arweinwyr Mynydd Cymru yn darparu cynlluniau hyfforddi ac asesu a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer arweinwyr grwpiau sy’n cymryd rhan mewn teithiau cerdded mynyddoedd a dringo creigiau un pits. Mae’r Bwrdd yn gweinyddu dyfarniad yr Arweinwyr Grŵp Cerdded, dyfarniad yr Arweinwyr Mynydd a’r dyfarniad Pits Sengl. Diben y cyrsiau i gyd yw dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i arwain grwpiau ar fynyddoedd, bryniau a chlogwyni’r DG. Rhoddir llawer o bwyslais ar ddysgu drwy gyfrwng profiad ymarferol, sy’n arwain yn naturiol at hunanhyder a medrusrwydd
Cafodd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru ei chreu i wella’r cyfleoedd i fwy o bobl leol yng Ngogledd Orllewin Cymru gyflawni eu potensial drwy gyfrwng gweithgareddau awyr agored. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys cyflogaeth, iechyd, cyfleoedd cystadleuol a mwy o gyfranogiad. Mae Swyddogion Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored wedi’u penodi ar gyfer Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, yn ogystal ag Uwch-Reolwr Prosiect i gydlynu’r swyddi ac i fwrw strategaeth y Bartneriaeth Awyr Agored yn ei blaen
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
