Cynllunio rhaglenni hyfforddi

Fel hyfforddwr, rydych bob amser yn chwilio am syniadau a dulliau newydd i wella perfformiad y rheiny yr ydych yn eu hyfforddi. Mae sesiwn da yn sesiwn sydd wedi'i gynllunio'n dda ac felly, mae angen i chi gynllunio eich rhaglen yn briodol. Am ragor o wybodaeth a chyngor ar gynllunio eich rhaglenni hyfforddi, rhowch gynnig ar y canlynol:

  • Cysylltwch â'r corff llywodraethol cenedlaethol ar gyfer eich camp oherwydd hwyrach y bydd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi yn y maes hwn, yn ogystal â'ch cyfeirio at adnoddau priodol sy'n benodol ar gyfer eich camp er mwyn datblygu eich sesiynau hyfforddi.
  • Mae Coachwise yn cynnig nifer o adnoddau ar gyfer hyfforddwyr yn y maes hwn.
  • Mynychwch unrhyw rai o'r gweithdai canlynol a gynhelir gan Sports Coach UK:

Dadansoddi eich dulliau hyfforddi - darganfod dulliau o ddadansoddi eich dulliau hyfforddi eich hun

Dulliau Hyfforddi a Chyfathrebu - dysgu egwyddorion ymarfer da mewn hyfforddi

Cynllunio a Cyfnodoli - cynorthwyo perfformwyr i osod targedau a dysgu sut i gynllunio rhaglen hyfforddi

Gwella Ymarfer a Sgiliau - darganfod sut y caiff sgiliau eu meithrin, eu datblygu a'u cadw

Mwy o wybodaeth am y gweithdai hyn

I ddod o hyd i weithdy yn eich ardal chi cliciwch ar y cyswllt ar y dde.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.