Cydnabod gwaith hyfforddwyr
Mae chwaraeon yn ddibynnol ar yr hyfforddwyr gwirfoddol niferus sy'n rhoi cymaint o'u hamser i gynorthwyo eraill. Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru yn cynnal seremonïau gwobrwyo blynyddol er mwyn gwerthfawrogi a chydnabod yr unigolion hynny sy'n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu chwaraeon; yn aml, ceir categori ar gyfer hyfforddwyr yn y seremonïau hyn. Am wybodaeth am seremonïau gwobrwyo lleol, cysylltwch â'ch uned datblygu chwaraeon. Os yw'r uned hon yn cynnal seremoni flynyddol, bydd yn gallu rhoi manylion i chi ynghylch y broses enwebu.
Ar lefel genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n trefnu Gwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn. Y categorïau ar gyfer yr enwebiadau yw::
- Hyfforddwraig y Flwyddyn
- Hyfforddwr Gwirfoddol y Flwyddyn : Perfformiad
- Hyfforddwr Gwirfoddol y Flwyddyn : Hyfforddwr Cymunedo
- Hyfforddwr Pobl Anabl y Byd Chwaraeon : Perfformiad
- Hyfforddwr Pobl Anabl y Byd Chwaraeon : Cyfranogiad
- Athro-Hyfforddwr y Flwyddyn (cynradd)
- Athro-Hyfforddwr y Flwyddyn (uwchradd)
- Hyfforddwr y Flwyddyn Cyngor Chwaraeon Cymru
Gall unrhyw un enwebu hyfforddwr ar gyfer gwobr. Rydym yn awyddus i gael cynifer o enwebiadau ag sy'n bosibl felly os ydych yn gwybod am hyfforddwr sy'n haeddu gwobr o'r fath, gwnewch yn si?r eich bod yn ei enwebu!
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Uned Hyfforddi yng Nghyngor Chwaraeon Cymru - 029 2033 8213 neu e-bostiwch coachingwales@scw.co.uk
Mae seremoni wobrwyo Cyngor Chwaraeon Cymru yn gysylltiedig â Gwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn y DU a gaiff eu cynnal gan Sports coach UK. Mae enillwyr gwobrau Cyngor Chwaraeon Cymru yn cael eu henwebu'n awtomatig ar gyfer gwobrau'r DU.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
