Y Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru
Cafodd y Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru ei lansio ym mis Gorffennaf 2005. Mae'n rhan annatod o Dringo'n Uwch, sef Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon, ac mae gan y cynllun ddau brif nod:- Cynyddu nifer yr hyfforddwyr a'r arweinwyr gwirfoddol a phroffesiynol
- Gwella ansawdd hyfforddiant yng Nghymru drwy gynyddu'r cyfleoedd i hyfforddwyr gael addysg a hyfforddiant ac ennill cymwysterau.
Caiff y nodau hyn eu cyflawni drwy:
- Godi proffil hyfforddi
- Gweithredu Tystysgrif Hyfforddi y DU yng Nghymru
- Gwella addysg a hyfforddiant
- Cynyddu nifer yr hyfforddwyr sy'n gweithio mewn cymunedau
- Gwella ansawdd yr hyfforddwyr
- Cyflogi mwy o hyfforddwyr
- Cyflogi hyfforddwyr rhanbarthol i ddatblygu talent
- Darparu ysgoloriaethau ar gyfer hyfforddwyr
- Creu 'Gweledigaethau ar gyfer Hyfforddi'
- Cynyddu'r cyfleoedd i hyfforddi hyfforddwyr drwy gyfrwng y Gymraeg
- Gwella'r hyfforddiant o ran gweithgareddau awyr agored
- Creu Cofrestr o Weithwyr Proffesiynol ym maes Ymarfer Corff
- Datblygu ymhellach cyrsiau craidd ar gyfer hyfforddwyr
- Darparu cyfleoedd i ddysgu wrth hyfforddwyr tramor
- Gwneud gwelliannau pellach i'r rhaglen Coach Cymru, a ariennir gan y Loteri.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
