Mae "Tystysgrif Hyfforddi y DU" yn newid popeth

Badminton CoachingYn y gorffennol, mae corff llywodraethol pob camp wedi datblygu ei strwythur unigryw ei hun ar gyfer ei gymwysterau hyfforddi. Roedd hyn yn arwain at ddiffyg cysondeb rhwng gwahanol gampau drwy'r DU, ac yn aml rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU. Mae Tystysgrif Hyfforddi y DU yn fenter sy'n cymeradwyo rhaglenni hyfforddi hyfforddwyr ar gyfer 31 o chwaraeon yn y DU. Er y bydd yn rhaid i gymhwyster hyfforddi pob camp gynnwys elfennau sy'n benodol i'r gamp honno mae yna nifer o elfennau sy'n gyffredin i bob math o chwaraeon; y gobaith, felly, yw y bydd modd defnyddio'r cysyniad hwn i sicrhau cysondeb rhwng cymwysterau. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cymeradwyo a bydd eu hansawdd wedi'i sicrhau.

Bydd yna fframwaith eang 5 lefel yn y DU ar gyfer cymwysterau hyfforddi erbyn 2006. I hyfforddwr, bydd hyn yn golygu:

  • Y bydd unrhyw gymhwyster yn cael ei gydnabod mewn rhannau eraill o'r DU.
  • Y bydd modd trosglwyddo cymwysterau i chwaraeon eraill yn fwy hwylus, a bydd modd eu trosglwyddo i rannau eraill o'r DU.
  • Y bydd ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir wedi'i sicrhau
  • Y bydd strwythur rheoli a gweinyddu yn ei le, a bydd ansawdd y strwythur hwnnw wedi'i sicrhau.

Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at system fwy effeithiol a phroffesiynol o hyfforddi hyfforddwyr! Ar hyn o bryd, mae'r 31 o chwaraeon a gafodd eu dethol yn mynd drwy'r broses o aildrefnu eu cymwysterau ar gyfer hyfforddwyr fel eu bod yn cydymffurfio â'r safonau newydd. Mae pob un o'r chwaraeon ar gam gwahanol yn y broses hon, ond bydd yr ugain cyntaf yn barod i gyflwyno'r cymwysterau erbyn 2006.

Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru

Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.