Beth sydd ymlaen yn fy awdurdod lleol?
Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru uned datblygu chwaraeon. Mae'r uned hon yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel leol, ac mae hyfforddi yn elfen bwysig o hyn. Mae eich uned datblygu chwaraeon yn gyswllt defnyddiol i'ch cynorthwyo i gael y wybodaeth ganlynol:
- Manylion cyrsiau i hyfforddwyr sy'n cael eu cynnal yn eich ardal.
- Manylion am glybiau lleol, ac ati, lle gallwch roi eich sgiliau hyfforddi ar waith.
- Cyllid - sut i gael cyllid o'r Gist Gymunedol.
- Cynlluniau achredu/cofrestru hyfforddwyr.
- Gwobrau chwaraeon lleol.
Cyrsiau Hyfforddi yng Nghymru
Llwythwch lawr gopi o restru gweithdai cyfredol sportscoach UK a runningsports yng Nghymru.
